Trydydd isradd

Plot o y = 3x. Mae'r plot yn gymesur, drwy'r tarddiad, gan ei fod yn od-ffwythiant. Ar x = 0 mae gan y graff hwn dangiad fertig.

O fewn algebra, trydydd isradd unrhyw rif (x) yw'r rhifau sy'n bodloni'r hafaliad y3 = x. Os mai'r gwrthwyneb i ddyblu rhif ydy canfod ei ail isradd, yna'r gwrthwyneb i giwbio rhif ydy canfod ei drydydd isradd.

Enghreifftiau:

38 = 2
327 = 3 (achos 3 x 3 x 3 = 27).
31000 = (achos 10 x 10 x 10 = 1000)

Ymhellach: mae gan pob rhif real (ar wahân i sero) un trydydd isradd real a phâr o drydydd isradd sy'n gyfieuau cymhlyg (complex conjugates). Yn ogystal, mae gan pob rhif cymhlyg di-sero dri trydydd isradd cymhleth amlwg. Er enghraifft

  • trydydd isradd real 8 (a ddynodir gyda 38) yw 2, oherwydd 23 = 8,
  • a'r trydydd isradd eraill yw −1 + 3i a −1 − 3i.
  • Y tri trydydd isradd o −27i yw

Ni chysylltir y weithred o drydydd israddio gydag adio na thynnu.

Pan geisir trydydd isradd rhif real, gelwir un o'r trydydd israddau yn "brif trydydd isradd", a chaiff ei ddynodi gan y symbol 3. Mae'r weithred hefyd yn cael ei gysylltu gyd'r esbonydd ac yn ddosbarthol gyda lluosi a rhannu. Nid yw hyn yn wir pob tro, gyda rhifau cymhlyg, fodd bynnag.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy